Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 31 Hydref 2016
Amser: 14.00 -
15.00
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Wales Audit Office: |
Huw Vaughan Thomas Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Martin Jennings (Ymchwilydd) Gregg Jones (Ymchwilydd) Rhayna Mann |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Nodwyd y papurau.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor:
· Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru – i ofyn i AGIC am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch adolygwyr lleyg gwirfoddol yn ystod haf 2017; a
· Craffu ar Gyfrifon: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyrfa Cymru – i ofyn am eglurhad pellach am y rhesymeg ynghylch pam nad yw holl gynlluniau pensiwn blaenorol awdurdodau lleol wedi'u huno mewn un cynllun.
3.1 Gan fod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi trefnu cynnal ymchwiliad i wasanaethau rheilffyrdd, cytunodd y Pwyllgor na fyddai'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cynnal ymchwiliad. Cytunodd yr Aelodau y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i ofyn am gynnwys materion a amlygwyd yn y drafodaeth yn eu hymchwiliad hwy.
4.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i'r mater hwn gan edrych yn benodol ar y trosolwg strategol.
5.1 Bu'r Aelodau yn ystyried ac yn trafod y papur cwmpasu ynghylch ymchwiliad posibl i gymdeithasau tai.
5.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal ymchwiliad ar yr amod bod cylch gorchwyl ychwanegol yn cael ei gynnwys.
6.1 Bu'r Aelodau yn ystyried ac yn trafod y papur cwmpasu ynghylch ymchwiliad posibl i'r goblygiadau i Gymru o ran Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
6.2 Gofynnodd yr Aelodau i'r Tîm Clercio i ddiwygio'r papur a'i ddychwelyd at y Pwyllgor i'w ystyried ymhellach.